![]() |
ADRODDIAD BLYNYDDOL BWRDD Y LLYWODRAETHWYR I RIENI |
![]() |
|
2007-2008 |
||
![]() |
Cwblhawyd "Y Gorlan" drwy adeiladu drysau o ystafelloedd y babanod ac fe fyddwn yn cwblhau'r cynllun datblygu iard cychwynwyd yn ol yn 2005 wrth adeiladu canopi dros y gorlan yn fuan yn y flwyddyn academaidd newydd Prynwyd seddau ychwanegol newydd ar gyfer amser cinio. Mae'r ystafell fwyta, bellach, yn rhy fach i'r Ysgol ac fe fydd rhaid i nifer o ddisgyblion fwyta cinio yn y neuadd. |
Er mwyn ymateb i'r amodau annod hyn cyflogwyd dwy weinyddes ginio ychwanegol
Daeth y gwaith yn yr Ystafell Gyfrifiaduron i ben ac mae'n diolch yn fawr i'r Gymdeithas Rieni am eu holl gymorth wrth geisio gwireddu'r adnawdd hwn.
Cwblhawyd gwerth miloedd o waith ar adeilad Tan yr Eos yn ystod yr Haf ac fe fu Dr Pike a Mrs Hughes yn gweithio'n ddiflino er mwyn cwblhau archebion a sicrhau'r adnoddau gorau ar gyfer yr egin ddosbarth yn ystod gwyliau'r haf ac yn wir trwy gydol y flwyddyn
Carem gydnabod anhawster ac anhwylustod i nifer o'r teuluoedd dan ein hadain sydd wedi methu llefydd ar safle Treganna ar gyfer brodyr neu chwiorydd. Er mwyn hwyluso'r trefniadau a sicrhau diogelwch i'r plant newydd dygwyd pwysau ar yr AALl i ddarparu bysiau er mwyn cludo plant o iard Treganna i Dan yr Eos
|
Diolch i'r Gymdeithas am ei nawdd a chefnogaeth. Derbyniwyd dros £ eleni ac fe gyfrannodd y GRA at Llyfrau Darllen Fe fu'r gymdeithas yn hynod o fywiog ac mae'n rhaid talu teyrnged i drefn, dyfalbarhad a brwdfrydedd cyson y swyddogion Braf oedd gweld y Gymdeithas yn cynnwys rhieni a disgyblion Tan yr Eos ymhob gweithgaredd ac wrth i'r safle newydd dyfu gobeithiwn weld cyd-weithio ychwanegol |
|
Cyfartaledd Presenoldeb
Treganna
RHODDION
Teulu Cove family £ 255.00
PTA (Sion Corn ) £ 531.25
PTA (Gwibdeithiau Haf) £2000.00
PTA (Tai bach, Cyfrifiaduron £6500.00
Teulu Cartwright (Offer Sain) £250
ARIAN AT ELUSEN
Trwynau Coch 2007 £ 180.00
Plant mewn angen £ 250.00
Diolchgarwch– Oxfam £ 99.00
Marie Curie £ 129.00
Daeth y flwyddyn ariannol i ben gyda than wariant o dros £5 mil . Yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf fe fyddwn yn cynnal y berthynas cydweithredol rhwng Tan yr Eos a Threganna tra'n gwahanu cyllid y ddau safle er mwyn cadw llygaid manwl ar wariant. Serch hyn fe fyddwn yn cydweithio ar nifer o weithgareddau ac yn rhannu arbenigrwydd staff ar draws y ddau safle